Gwaith grŵp a chefnogaeth
Cartref > Gwasanaethau > Gwaith grŵp a chefnogaeth
Coffi a Chacen
Mae'r sesiynau galw heibio anffurfiol hyn yn rhedeg mewn cylchoedd 8 wythnos ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn.
Maen nhw’n darparu lle diogel i ddod i gwrdd â goroeswyr eraill, i gael amser i sgwrsio ac ymlacio. Gall fod yn lle i rannu awgrymiadau coginio, ryseitiau, haciau DIY, arferion ymarfer corff, argymell llyfrau i’w darllen, y rhaglenni mae'n ‘rhaid eu gwylio’ diweddaraf a mwy. Nid yw hwn yn gyfarfod cwnsela.
Bob wythnos bydd gweithgaredd / thema arbennig fel byddwch yn gwybod beth i'w ddisgwyl.
Byddwn ni’n cyhoeddi sesiynau Coffi a Chacennau ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyr, felly dylech danysgrifio er mwyn sicrhau na fyddwch chi ar eich colled!
Grwpiau STaR
Byddwn ni’n cyhoeddi sesiynau STaR ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyr, felly dylech danysgrifio er mwyn sicrhau na fyddwch chi ar eich colled!
Sefydlogi, Trawma ac Adfer
Dyma raglen sy’n para am 6 - 8 wythnos ac mae'n agored i bob cleient 18 oed ac yn hŷn sy ddim mewn therapi erbyn bellach.
Mae nodau ac amcanion y rhaglen yn cynnwys:
- Datblygu gwydnwch
- Deall ein hunain mewn perthnasoedd.
- Archwilio trawma gan gynnwys pryder, ôl-fflachiau, euogrwydd a chywilydd.
- Datblygu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar.
- Datblygu sgiliau hunan-dosturi.
- Datblygu technegau sefydlogi i leddfu symptomau trawma
I gael rhagor o wybodaeth a/neu i sicrhau eich lle ar y rhaglen hon:
ffoniwch y swyddfa ar 01248 670 628neu –anfonwch e-bost at info@rasawales.org.uk
Rhaglen STaR i Ferched
Nod y gwaith grŵp yw helpu i hwyluso twf a deall ein meddyliau a'n cyrff.
Mae'r grŵp yn agored i unrhyw oroeswr Benywaidd sydd wedi derbyn therapi gan RASASC Gogledd Cymru o'r blaen.
Y pynciau a fydd yn cael eu trafod yw:
- Wythnos 1 Cyflwyniadau
- Wythnos 2 Hunan-dosturi a Gwydnwch
- Wythnos 3 Sefydlogi a rheoli ôl-fflachiau
- Wythnos 4 Pryder a goddef gofid
- Wythnos 5 Cywilydd ac Euogrwydd
- Wythnos 6 Emosiynau a ffiniau
- Wythnos 7 Paratoadau ar gyfer y gwaith grŵp
- Wythnos 8 Gorffen
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu'r gwaith grŵp ac rydych chi eisiau dod i asesiad ar gyfer gwaith grŵp, cysylltwch â swyddfa RASASC Gogledd Cymru ar 01248 670 628
Rhaglen STaR i Ddynion
Nod y gwaith grŵp yw helpu i hwyluso twf a deall ein meddyliau a'n cyrff.
Mae'r grŵp yn agored i unrhyw oroeswr gwrywaidd sydd wedi derbyn therapi gan RASASC Gogledd Cymru o'r blaen.
Y pynciau a fydd yn cael eu trafod yw:
- Wythnos 1 Cyflwyniadau
- Wythnos 2 Trawma
- Wythnos 3 Y Corff a'r Meddwl
- Wythnos 4 Cywilydd
- Wythnos 5 Cywilydd a Gorbryder
- Wythnos 6 Gorbryder a Dicter
- Wythnos 7 Trawma a Pharatoi ar gyfer diwedd y cwrs
- Wythnos 8 Gorffen
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu'r gwaith grŵp ac rydych chi eisiau dod i asesiad ar gyfer gwaith grŵp, cysylltwch â swyddfa RASASC Gogledd Cymru ar 01248 670 628
Byddwn ni’n cyhoeddi sesiynau Gwaith Grŵp STaR ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyr, felly dylech danysgrifio er mwyn sicrhau na fyddwch chi ar eich colled!