Cynnal gwasanaeth
Cartref > Gwasanaethau > Cynnal gwasanaeth
Beth yw'r gwasanaeth cynnal?
Mae'r gwasanaeth cynnal yn apwyntiad ffôn rheolaidd gyda'n heiriolwr trais rhywiol hyfforddedig arbenigol. Mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener ystod oriau swyddfa, ac mae rhai apwyntiadau ar gael gyda'r nos. Bydd yr eiriolwr yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad ar amser sy'n gyfleus i chi.
Nid yw'r gwasanaeth cynnal yn wasanaeth cwnsela ond mae'n ffordd o dderbyn cefnogaeth emosiynol ac ymarferol wrth i chi aros am y cwnsela sydd ei angen arnoch.
Gallan nhw eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn rydych chi wedi bod drwyddo, trafod eich opsiynau a'ch helpu i deimlo eich bod yn cael eich bywyd dan reolaeth eto. Gallan nhw eich cefnogi i gael y cymorth ymarferol sydd ei angen arnoch nawr, fel cyngor ar dai, budd-daliadau, a gallan nhw eich helpu i gysylltu â sefydliadau defnyddiol eraill.
Gallwn ni ddarparu amgylchedd niwtral diogel lle y gallwch chi drafod eich ofnau, eich pryderon a'ch emosiynau.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth cynnal?
Mae ein gwasanaeth cynnal ar gael i unrhyw un dros 18 oed sydd ar y rhestr aros i gael cwnsela gan RASASC Gogledd Cymru.