RASASC GC ISVA
Cartref > Gwasanaethau > RASASC GC ISVA
Beth yw ISVA?
Mae ISVA yn Gynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol; sef arbenigwr hyfforddedig sy'n cynnig cefnogaeth anfeirniadol, ymarferol ac emosiynol i oroeswyr cam-drin rhywiol.
Rôl yr ISVA yw gweithio gyda goroeswyr a'u helpu i gael mynediad at wasanaethau cefnogaeth eraill a mynd i'r afael ag anghenion tymor hir a thymor byr.
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud
• Rydyn ni’n gwrando, yn credu ac yn cefnogi
• Gyda'n gilydd rydyn ni’n asesu eich anghenion, yn datblygu ac yn cynllunio ar gyfer eich diogelwch a'ch lles
• Darparu gwybodaeth ddiduedd i chi i'ch galluogi i wneud dewisiadau
• Esbonio proses yr heddlu, y Broses Cyfiawnder Troseddol a beth i'w ddisgwyl os byddwch chi’n dewis adrodd.
• Atgyfeirio ac rydyn ni’n gallu cysylltu'n agos ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â hyn
• Mynd gyda chi i apwyntiadau pwysig
• Cefnogi eich camau nesaf ar ôl y broses gyfreithiol
• Sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol
Sut i Gael cefnogaeth?
Os ydych chi wedi goroesi trais rhywiol yn ddiweddar neu heb fod yn ddiweddar neu os ydych chi’n cefnogi rhywun sydd eisoes yn defnyddio cwnsela RASASC Gogledd Cymru, ffoniwch neu –anfonwch e-bost at y gwasanaeth neu siaradwch â'ch cwnselydd.
Fel arfer, bydd eich ISVA yn cysylltu â chi drwy'r dull cyfathrebu sy’n well gennych i’w gyflwyno ei hun ac i drefnu eich apwyntiad cyntaf mewn lleoliad niwtral. Yn yr apwyntiad hwn bydd yn esbonio’r gwasanaeth i chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
A allaf gael ISVA dim ond os byddaf i’n dewis adrodd i'r Heddlu?
Na allwch, gallwch barhau i gael ISVA hyd yn oed os byddwch chi’n dewis peidio ag adrodd. Os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen, gall yr ISVA sicrhau y cewch chi eich cefnogi drwy'r broses hon.
RASASC NW ISVA Options for reporting (or not) (Translation coming soon...)
If you are unsure whether you want to report a sexual assault to the Police, you may find talking to RASASC NW’s Independent Sexual Violence Adviser (ISVA) helpful. They will talk to you about your options and support whatever decision you make.
Your options are:
Reporting directly to the Police. You can call 101, giving some details about what has happened and what you wish to report. An officer will then arrange to meet with you and take an account of what happened from you. After this you would make a recorded statement. This is where you give a more detailed account. Following your statement, the Police would carry out a thorough investigation. An ISVA can support you through the Police process if you wish. If the Police think they have enough evidence, the case is then sent to the Crown Prosecution Service (CPS). This is the agency that takes the case to court.
Continuing to work with an ISVA but not reporting to the Police. Your ISVA will help you look at alternative coping strategies such as counselling, trauma therapy and understanding the impacts of sexual violence
You could make a “first account” with a member of police staff, (someone who is not a Police Officer, as they would have a duty to investigate a crime). The police staff member would try to ascertain from you the “who, what, when & where”. Obviously some people cannot remember or don’t know many details, which is fine. This account is recorded on paper and is stored securely at the SARC. From this first account you have additional options, including reporting as above or by anonymous intelligence.
Giving anonymous Intelligence, which means that any reference to you is taken out of the statement, before being stored on a national computer system. If anyone else reports a crime against the same person, or gives anonymous intelligence about that person, the computer will match the information. If this happens, the Officer will then go to the SARC and ask if they can speak to you. At this point the Police still do not have your information so cannot come to you directly. The SARC will ask you if you would be willing to speak to the Officer and make a full statement. You can then decide if you wish to do so without feeling pressured. If you decide to go ahead, you will then be asked to make a statement. This is usually a recorded statement which, if the case gets to court, is used as your evidence
Cyfrinachedd
Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfrinachol, bydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrth eich ISVA yn aros rhyngoch chi'ch dau.
Mae cyfrinachedd yn gyfyngedig yn unig mewn perthynas â pholisïau sy'n ymwneud â diogelu, byddwch chi’n trafod hyn yn fwy manwl yn eich cyfarfod cyntaf. Gwneir pob ymdrech i hyrwyddo eich preifatrwydd a'ch urddas.
Cwestiynau cyffredin:
A yw'r ISVA yn gweithio i'r heddlu?
Nac ydy, mae'r ISVA yn gweithio'n annibynnol ar yr heddlu a'r llysoedd. Maen nhw'n gweithio i'ch cefnogi chi.
A yw'r ISVA yn darparu gwasanaethau cyfreithiol?
Nac ydy, mae ISVA's yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar gyfer eich anghenion tymor hir a thymor byr ac yn rhoi gwybodaeth ddiduedd.
Pa mor hir fydd fy apwyntiadau?
Mae amseroedd apwyntiadau yn hyblyg er mwyn cyd-fynd â’ch anghenion.
A yw'r ISVA yn cynnig gwasanaeth ar ei ben ei hun neu wasanaethau galw heibio?
Nac ydy, oherwydd lleoliadau a dyletswyddau gwahanol yr ISVA, dim ond apwyntiadau a wnaed ymlaen llaw sydd ar gael.
Bydd ISVA Gogledd Cymru RASASC yn gweithio gyda'r rhai sy'n defnyddio gwasanaeth RASASC Gogledd Cymru yn unig.
A yw'r ISVA yn darparu gwasanaethau allan o oriau?
Nac ydy, mae'r gwasanaeth ISVA ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa, ac mae rhai apwyntiadau ar gael gyda'r nos. Bydd yr eiriolwr yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad ar amser sy'n gyfleus i chi.
Os nad ydw i am adrodd am ddigwyddiad, a allaf i barhau i ddefnyddio’r gwasanaethau ISVA?
Gallwch, gallwch ofyn am wasanaethau ISVA ar unrhyw adeg yn ystod eich taith gwnsela i'ch helpu i wneud penderfyniadau am eich profiad.
Ydych chi’n poeni am fynd I’ch prawf sgrinio serfigol?
Gall prawf serfigol deimlo’n frawychus iawn am amryw o resymau, yn enwedig os ydych chi wedi profi trais rhywiol.Gall ein CTRA gynnig cefnogaeth I fynychu eich prawf serfigol neu unrhyw apwyntiad meddygol o natur sensitif.
Dogfen ISVA (PDF)