Cymryd Rhan

Cartref > Cymryd Rhan

Dylai pawb sydd wedi dioddef trais neu gamdriniaeth rywiol fod yn gallu cael cefnogaeth.

Gallwch chi ein helpu i barhau i ddarparu'r gwasanaeth amhrisiadwy hwn ledled Gogledd Cymru mewn ffordd sy'n addas i chi – gan gynnwys rhoi rhodd unwaith yn unig neu trwy sefydlu rhodd reolaidd i RASASC Gogledd Cymru, neu gallwch chi gynnal eich digwyddiad codi arian eich hun.

Os hoffech gefnogi ein gwaith ac eisiau trafod eich syniadau, boed yn rhai mawr neu rai bach, hoffai ein tîm codi arian glywed gennych. Cysylltwch â info@rasawales.org.uk

Diolch i chi am eich cefnogaeth.