Swyddi
Cartref > Cymryd Rhan > Swyddi
Arweinydd Clinigol - Gwasanaethau Oedolion
Wedi’i lleoli yn: Prif swyddfa yn y Rhyl a Bangor, hyblygrwydd yn hanfodol i weithio o wahanol ganolfannau allgymorth ar draws Gogledd Cymru
Yn atebol i: Prif Weithredwr
Cyflog/Gradd: £36,000 - £40,000 y flwyddyn pro rata (Yn dibynnu ar brofiad)
Oriau: 35 awr yr wythnos
Contract: Parhaol
Dyddiad Cau: 16 Mawrth 2025
Hysbyseb Swydd (pdf)
Disgrifiad Swydd (pdf) saesneg yn unig
Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu Plant a Phobl Ifanc
Teitl Swydd: Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu Plant a Phobl Ifanc
Yn Gyfrifol i: Pennaeth Gweithrediadau/Prif Swyddog Gweithredol
Cyflog / Gradd: £32,000 y flwyddyn (yn codi i £32,960 ar ôl y cyfnod prawf)
Gwyliau Blynyddol: 28 diwrnod yn ogystal â Gwyliau Banc
Oriau: 35 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener a’r angen am weithio hyblyg i gwrdd ag anghenion y sefydliad.
Lleoliad: Canolfannau RASASC GC, Bangor a / neu Rhyl
Dyddiad Cau: 16 Mawrth 2025
Bydd y swydd hon yn gofyn am agwedd hyblyg at oriau gweithio a disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’r oriau sy’n rhesymol ofynnol i gyflawni dyletswyddau’r swydd. Gallai hyn gynnwys gweithio oriau achlysurol dros y penwythnos yn ogystal â mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau ar gyfer RASASC GC.
- Bydd angen datgeliad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar ddeiliad y swydd.
- Bydd y swydd yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf o chwe mis.
- Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn gymwys i weithio yn y DU ar hyn o bryd.
- Rhaid i ddeiliad y swydd fod a Thrwydded Yrru lawn y DU a dylai ymgeiswyr nodi bod y rôl yn gofyn am gryn dipyn o deithio ar draws Gogledd Cymru.
I Wneud Cais am y Swydd Wag Hon Anfonwch Eich CV a Llythyr Esboniadol at: melanie@rasawales.org.uk
Disgrifiad Swydd (PDF) / Ffurflen Gais (PDF)