Codi arian

Cartref > Cymryd Rhan > Codi arian

Mae ein gwasanaeth yn helpu pob goroeswr y mae trais a cham-drin rhywiol wedi effeithio arnyn nhw i dderbyn y gefnogaeth y maent ei hangen ac yn ei haeddu. Y llynedd, cefnogodd RASASC dros 1773 o bobl gan gynnwys dros 293 o blant .

Gweithgareddau codi arian

Bydden ni wrth ein bodd i glywed gennych chi os hoffech chi godi arian ar gyfer RASASC Gogledd Cymru. Gallwn ni ddarparu ysbrydoliaeth, cefnogaeth, deunyddiau, crysau-t a helpu i roi cyhoeddusrwydd drwy ein cyfryngau cymdeithasol.

Ffoniwch y swyddfa ar 01248 670 628 neu anfonwch e-bost at info@rasawales.org.uki gael mwy o wybodaeth.