Hyfforddiant Achrededig
Cartref > Hyfforddiant & Datblygiad > Hyfforddiant Achrededig
Hyfforddiant Achrededig
Mae RASASC NW yn darparu Lefel 2 achrededig Deall Diogelu i weithwyr proffesiynol. Rydyn ni’n ei ddarparu ar ran CHM Cymru, ac fe'i hachredir gan AGORED.
Darperir y fersiwn achrededig o'n hyfforddiant diogelu mewn Uned annibynnol o 1 Credyd. Mae'n cynnwys un diwrnod o hyfforddiant wyneb yn wyneb gyda hyfforddwr profiadol ac arweinydd Clinigol a Diogelu cymwys ac ar ôl hynny byddwch chi’n cwblhau llyfr gwaith fydd yn cael ei asesu.
Diben a Nod
Nod yr uned hon yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr o ddiogelu.
Canlyniadau Dysgu
Bydd y dysgwr yn
1. Gwybod ei rôl ei hun mewn perthynas â diogelu oedolion, plant a phobl ifanc rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Meini Prawf Asesu
Gall y dysgwr
1.1 Amlinellu darn o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ddiogelu.
1.2 Amlinellu polisi sy'n berthnasol i ddiogelu.
1.3 Disgrifio ei gyfrifoldebau ei hun mewn perthynas â diogelu.
1.4 Esbonio pam ei bod yn bwysig rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw bryderon am niwed, camdriniaeth neu esgeulustod posibl.
1.5 Amlinellu camau y mae'n rhaid eu cymryd pan fo pryderon parhaus am niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.
1.6 Esbonio ffiniau cyfrinachedd mewn perthynas â diogelu.
2. Deall sut mae unigolion yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a niwed.
2.1 Disgrifio sut mae fframweithiau deddfwriaethol yn tanategu hawliau unigolion i gael eu hamddiffyn rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
2.2 Disgrifio ffyrdd o weithio sy'n amddiffyn unigolion rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
3. Gwybod sut i adnabod gwahanol fathau o niwed, cam-drin ac esgeulustod.
3.1 Adnabod y categorïau o niwed a cham-drin.
3.2 Nodi'r arwyddion a'r symptomau sy'n gysylltiedig â niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr uned yma: Uned (agored.cymru)
Cost cofrestru ar y cwrs yw £250 y pen. Mae'r cyfraniad hwn yn cynnwys y costau ar gyfer cyflwyno, asesu'r llyfr gwaith er mwyn derbyn achrediad trwy AGORED. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag anna@rasawales.org.uk.
Rydyn ni hefyd yn cynnig fersiwn heb ei achredu o'r hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu fel hyfforddiant diwrnod llawn gyda hyfforddwr profiadol, ac ar ôl hynny byddwch chi’n derbyn tystysgrif presenoldeb. Gallwn ni ei ddarparu am gost is yn dibynnu ar nifer y mynychwyr, i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag anna@rasawales.org.uk