DSMF

Cartref > Hyfforddiant & Datblygiad > DSMF

Mae gweithdy hyfforddi Peidiwch â Dwyn Fy Nyfodol yn weithdy hyfforddi pwerus sy'n cael ei yrru gan effaith, mae'n para am 2 - 3 awr ac yn cael ei gyflwyno i blant a phobl ifanc o 11 oed ac yn hŷn. Mae gennyn ni dîm o hyfforddwyr sydd â phrofiad o weithio gyda goroeswyr trais rhywiol sy'n cyflwyno'r hyfforddiant hwn i ysgolion, colegau, prifysgolion a chlybiau chwaraeon ledled Gogledd Cymru.

Mae'r pecyn yn cynnwys dysgu rhyngweithiol, enghreifftiau o fywyd go iawn a llawer o wybodaeth ddefnyddiol sy’n cael ei chyflwyno mewn modd sensitif i helpu i addysgu mynychwyr ynglŷn â beth yw trais rhywiol, pa mor aml mae’n digwydd a'i effaith nid yn unig ar oroeswyr trais rhywiol ond hefyd ar droseddwyr a'u teuluoedd.

Mae'r gweithdy'n cael ei lywio gan effaith ac yn trafod pynciau fel:

  • Beth yw Trais Rhywiol?
  • Pam mae'n bwysig i mi?
  • Pwysau gan Gyfoedion a Chydweithwyr
  • Ymddygiad Gorfodaethol a Rheolaethol - Yr hyn ydyw, ei effaith, perthnasoedd iach/afiach
  • Defnyddio pornograffi a'i beryglon a'r effaith a gaiff ar yr ymennydd
  • Datblygu ymwybyddiaeth, sgiliau a hyder wrth gydnabod pwysau neu gamdriniaeth gan gyfoedion neu gydweithwyr a mynd i'r afael â hi
  • Effeithiau/effaith trais rhywiol - ar y goroeswyr ac ar y troseddwyr
  • Rolau rhywedd - casineb at fenywod/casineb at ddynion, rhywedd ac effaith y math hwn ar ymddygiad
  • Sbeicio - cydsyniad gwybodus
  • Secstio a lluniau noethlymun - gan gynnwys beth yw'r canllawiau cyfreithiol
  • Cydsyniad - gan gynnwys beth yw'r canllawiau cyfreithiol
  • Pam nad yw pobl yn adrodd am ddigwyddiadau
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Y gefnogaeth sydd ar gael
  • Gwneud yr addewid

Ar ddiwedd y gweithdy mae addewid unigryw i beidio â dwyn dyfodol unrhyw un, fel y gall pawb fyw bywyd heb ofni trais rhywiol. Rydyn ni’n gobeithio mai dyma'r newid mawr sydd ei angen arnom i leihau trais rhywiol, yn enwedig tuag at fenywod a merched sy'n rhan o'r gyfran fawr o'r boblogaeth y mae'r troseddau hyn yn effeithio arnyn nhw.

Fel elusen yng Ngogledd Cymru, un o'n prif amcanion yw codi ymwybyddiaeth o Drais a Cham-drin Rhywiol, ei leihau a’i dileu.  Mae'r cyfle hwn ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion, colegau, prifysgolion a chlybiau, i blant a phobl ifanc o 11 oed i fyny ar draws Gogledd Cymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn RASASC Gogledd Cymru yn darparu'r hyfforddiant hwn, cysylltwch â nia@rasawales.org.uk

Adborth a Thystebau:

Mae'r ymgyrch wedi bod yn llwyddiant ysgubol, dyma adborth a data a dderbyniwyd ers ei chyflwyno ym mis Gorffennaf 2022:

“Ar ôl cael gwybod am weithdy Peidiwch â Dwyn Fy Nyfodol roeddwn yn awyddus iawn i ddod ag ef i Ysgol ****** i gefnogi Bl11, 12 a 13."

Nid oedd yr hyfforddiant yn peri siom, mae ****** wedi bod yn anhygoel, mae hi wedi ffitio i mewn i amserlen yr ysgol ac wedi cyflwyno cyfanswm o 7 sesiwn, rhai gyda ***** ac eraill ar ei phen ei hun. Roedd y sesiynau'n llawn gwybodaeth ddiddorol a ffeithiol gydag astudiaethau achos effeithiol a wnaeth i'r myfyrwyr eistedd i fyny a chymryd sylw.  Fe wnaethon nhw fwynhau'r sesiynau Kahoot yn arbennig, roedd yn ddiddorol gweld sut y gwnaethon nhw newid eu henwau Kahoot wrth i'r sesiwn fynd ymlaen er mwyn bod yn fwy ystyriol a phriodol."

"Efallai na fyddwn ni byth yn gwybod effaith hirdymor y sesiynau hyn ond mae'n amlwg bod y neges bwerus wedi dod drwodd.  Rydyn ni wedi gweld gwahaniaeth yn yr ymddygiad yn ein disgyblion 6ed dosbarth, ac maen nhw’n herio ymddygiad amhriodol pan fyddan nhw’n ei weld ."

Adborth gan aelodau eraill o'r staff addysgu yw bod y dysgwyr wedi bod yn trafod cynnwys y sesiynau mewn amser dosbarth.  Mae adborth ar lafar gan y dysgwyr wedi dangos eu bod wedi gweld bod y sesiynau yn:

“Defnyddiol iawn, yn eithaf dwys”

"Addysgiadol"

“Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gwybod llawer, nes i mi wneud y gweithdy heddiw”

“Diolch am ddod i siarad â ni. Ces i fy mharatoi ar-lein ac mae'n bwysig iawn i fy ffrindiau wybod peryglon hyn." - Disgybl Blwyddyn 8

 

"Fe wnaeth y cwrs hwn achub bywyd fy merch. Hoffwn i ddiolch i RASA am ddod â hyn i'n hysgol." - Rhiant

"Rydw i'n llawn syniadau am sut y gallwn ni barhau i ledaenu ymwybyddiaeth a chreu diwylliant o sgwrsio am neges 'Peidiwch â Dwyn Fy Nyfodol a gwaith RASASC yma yn ein hysgol." - Athro

"Roeddwn i'n ei chael hi'n ddiddorol iawn. Rydw i'n addo gwneud yr addewid i beidio â dwyn dyfodol unrhyw un. Diolch am ddod i'n hysgol." - Myfyriwr gwrywaidd ym mlwyddyn 10

“Rydw i'n falch eu bod wedi siarad am sbeicio diodydd ac wedi rhoi ychydig o bethau am ddim i ni y gallwn ni eu defnyddio mewn pan fyddwn yn mynd allan”

"Rydw i’n gwybod bod llawer o fy ffrindiau'n rhannu negeseuon secstio a lluniau noethlymun ac mae wedi gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus iawn. Diolch am siarad â ni am hynny. Yn ystod yr egwyl buon ni’n siarad am hyn ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud i rai ohonyn nhw sylweddoli nad oedd hyn yn iawn!' - Disgybl Blwyddyn 9

"Mae'r disgyblion wedi elwa cymaint ar gynnwys addysgol y gweithdai. Fe wnaethon nhw ymateb gydag aeddfedrwydd i'r pynciau dan sylw ac empathi tuag at astudiaethau achos bywyd go iawn. Dywedodd llawer o fyfyrwyr, er eu bod yn gweld yr ystadegau yn ysgytwol, bod y gweithdy wedi rhoi cyfle iddyn nhw fyfyrio ar ddiogelwch eu hymddygiad cymdeithasol, ei ystyried a’i werthuso, sut maen nhw’n ymwneud â phobl eraill a sut y byddan nhw’n mynd i'r afael â phob perthynas yn y dyfodol." - Pennaeth Blwyddyn

Ffordd arall o fesur yr effaith yw trwy nifer y bobl ifanc a arhosodd i siarad â **** ac â ***** neu a aeth i weld ein swyddog diogelu ar ôl y gweithdy. Yn amlwg, mae angen am yr hyfforddiant hwn. Ni fyddwn ni’n oedi cyn argymell ***** wrth gyflwyno'r gweithdy hwn ac fel ysgol rydyn ni’n gobeithio ei gwahodd yn ôl i gyflwyno'r sesiwn bob blwyddyn .” - Arweinydd Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

"Mae'r myfyrwyr wedi elwa cymaint ar gynnwys addysgol y gweithdai. Fe wnaethon nhw ymateb gydag aeddfedrwydd i'r pynciau dan sylw ac empathi tuag at astudiaethau achos bywyd go iawn. Dywedodd llawer o fyfyrwyr, er eu bod yn gweld yr ystadegau yn ysgytwol, bod y gweithdy wedi rhoi cyfle iddyn nhw fyfyrio ar ddiogelwch eu hymddygiad cymdeithasol, ei ystyried a’i werthuso, sut maen nhw’n ymwneud â phobl eraill a sut y byddan nhw’n mynd i'r afael â phob perthynas yn y dyfodol. Yn y pen draw, gwnaeth arddull cyflwyno cyfeillgar ac ymlaciedig wneud y cynnwys yn hygyrch, ac yn berthnasol i bawb. Mae hwn yn gam hanfodol i ni fel coleg, yn ein cenhadaeth barhaus o hyrwyddo diwylliant cymdeithasol diogel i'n holl ddisgyblion.  Byddwn ni’n cynnal ein cyswllt â RASAC a byddwn ni’n ymdrechu i ddefnyddio neges peidiwch â dwyn fy nyfodol fel sbardun yn ein hethos llesiant ysgolion." - Pennaeth Ysgol

Dadansoddi data o arolygon myfyrwyr a chwisiau Kahoot

Mae'r data a gasglwyd gennym yn dangos mai:

  • 51% oedd cyfartaledd y wybodaeth o ddealltwriaeth/ymwybyddiaeth cyn y sesiwn
  • Cynyddodd y ddealltwriaeth\ymwybyddiaeth o wybodaeth ar ôl y sesiwn a 78% oedd y cyfartaledd
  • Dyna gynnydd o 27% ar gyfartaledd
  • Pan ofynnwyd 'Faint rydych chi wedi'i ddysgu heddiw? Y canfyddiadau diweddaraf oedd bod 90% o ddysgwyr wedi dewis ‘llawer’ neu ‘gryn dipyn’
  • Pan ofynnwyd ‘ydych chi'n meddwl bod yr hyfforddiant hwn yn helpu pobl ifanc ?' canfu ymateb gan fyfyrwyr yn y dadansoddiad diweddaraf fod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol i 85%.

Mae'r uchod yn adlewyrchu ac yn dangos llwyddiant ein hymgyrch yn glir.