System cyfiawnder troseddol

Cartref > Gwybodaeth & Adnoddau > System cyfiawnder troseddol

Os nad ydych chi’n sicr a ydych chi am riportio ymosodiad rhywiol i’r Heddlu, mae’n bosibl y bydd siarad â Chynghorydd Trais Rhywiol (ISVA) yn ddefnyddiol. 

Byddan nhw’n siarad â chi am eich opsiynau ac yn cefnogi pa benderfyniad bynnag a wnewch chi.

Eich opsiynau yw:

  • Adrodd yn uniongyrchol i'r Heddlu. Gallwch ffonio 101, gan roi rhai manylion am yr hyn sydd wedi digwydd a'r hyn yr hoffech chi ei riportio. Yna bydd swyddog yn trefnu cwrdd â chi ac i gymryd manylion yr hyn a ddigwyddodd gennych chi. Ar ôl hynny, byddwch chi’n gwneud datganiad ysgrifenedig. Dyma lle rydych chi'n rhoi cyfrif manylach. Yn dilyn eich datganiad, byddai'r Heddlu'n cynnal ymchwiliad trylwyr. Gall ISVA eich cefnogi drwy broses yr heddlu os dymunwch chi. Os yw'r Heddlu'n credu bod ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth, bydd yr achos yn cael ei anfon at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Dyma'r asiantaeth sy'n mynd â'r achos i'r llys.
  • Parhau i weithio gydag ISVA ond heb adrodd i'r Heddlu.  Bydd eich ISVA yn eich helpu i edrych ar strategaethau ymdopi eraill fel cwnsela, therapi trawma a deall effeithiau trais rhywiol.
  • Gallech wneud “adroddiad cyntaf”  gydag aelod o staff yr heddlu, (rhywun sy ddim yn Swyddog Heddlu, gan y byddai dyletswydd ar swyddog heddlu i ymchwilio i drosedd). Byddai aelod o staff yr heddlu yn ceisio canfod gennych y “pwy, beth, pryd a ble”. Yn amlwg, ni all rhai pobl gofio neu nid ydyn nhw’n gwybod llawer o fanylion, ac mae hynny'n iawn. Mae'r cyfrif hwn yn cael ei gofnodi ar bapur ac yn cael ei storio'n ddiogel yn y SARC. O'r adroddiad cyntaf hwn mae gennych opsiynau ychwanegol, gan gynnwys adrodd fel uchod neu drwy gudd-wybodaeth ddienw.
  • Rhoi Cudd-wybodaeth ddienw, mae hyn yn golygu bod unrhyw gyfeiriad atoch chi yn cael ei dynnu allan o'r datganiad, cyn cael ei storio ar system gyfrifiadurol genedlaethol. Os bydd unrhyw un arall yn riportio trosedd yn erbyn yr un person, neu'n rhoi gwybodaeth ddienw am y person hwnnw, bydd y cyfrifiadur yn cysylltu'r wybodaeth honno â'r person hwnnw. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Swyddog yn mynd i'r SARC ac yn gofyn a all siarad â chi. Ar hyn o bryd nid yw’ch eich gwybodaeth gan yr heddlu eto , ac felly ni allan nhw ddod atoch chi’n uniongyrchol. Bydd y Comisiynydd yn gofyn i chi a fyddech chi'n fodlon siarad â'r Swyddog a gwneud datganiad llawn. Yna gallwch chi benderfynu a ydych chi am wneud hynny heb deimlo dan bwysau.   Os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen, yna bydd yr heddlu yn gofyn i chi wneud datganiad. Fel arfer bydd y datganiad hwn yn cael ei recordio ac, os bydd yr achos yn cyrraedd y llys, caiff ei ddefnyddio fel eich tystiolaeth.

Gwybodaeth Ddefnyddiol – Riportio troseddau Trais a Throseddau Rhywiol i Heddlu Gogledd Cymru