SARC
Cartref > Gwybodaeth & Adnoddau > SARC
Amethyst yw'r Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) ar gyfer ardal Gogledd Cymru.
Mae Amethyst yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i ddynion, menywod a phlant sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol.
Gallant ddarparu:
- Gwybodaeth am eich dewisiadau os cawsoch eich treisio neu os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol
- Cyngor a chefnogaeth i adrodd i'r heddlu
- Gwybodaeth a chefnogaeth os nad ydych yn adrodd i'r heddlu
- Cyngor/apwyntiad Iechyd Rhywiol – rhagor o wybodaeth
- Dulliau atal cenhedlu brys
- Cyngor am Hepatitis a haint HIV
- Cyfeirio am gefnogaeth a chwnsela
Mae eu staff a'u cydweithwyr yn weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel ac sydd yma i'ch cefnogi.
Ffoniwch 0808 156 3658 i siarad â gweithiwr brys.
Mae Amethyst yn fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a grwpiau gwirfoddol.
Gwefan Amethyst
Cysylltu ag Amethyst
Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â Chanolfan Amethyst i wneud apwyntiad gan nad ydynt yn gallu eich gweld heb un.
Ffôn
0808 156 3658
Gallwch ysgrifennu atynt
1-3 Bryn Eirias Close, Off Elian Road, Colwyn Bay, Conwy, LL29 8AB
E-bost
BCU.Amethyst@wales.nhs.uk
(caiff ei fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)
Maent ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am hyd at 5pm.
Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth brys y tu allan i oriau.