Mannau i fenywod yn unig
Cartref > Amdanom ni > Polisiau > Mannau i fenywod yn unig
Cefndir
Sefydlwyd y ganolfan ym 1984 gan grŵp bach o fenywod i gefnogi menywod eraill a oedd wedi dioddef oherwydd trais a thrais rhywiol. Yn 2005, fe wnaethon ni ymestyn ein gwasanaethau i ddynion a bechgyn. Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn cynnig gwasanaethau i oroeswyr o bob rhyw ar draws Gogledd Cymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod trais rhywiol yn drosedd seiliedig ar rywedd (gender) sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched - ac er mwyn gwella o’r trais hwn, mae angen lle diogel ar rai menywod i weithio trwy eu trawma. Rydym hefyd yn cydnabod bod trais rhywiol yn effeithio ar bawb, a chredwn fod pob goroeswr yn haeddu cael eu trin ag urddas a chael yr hawl i wasanaethau arbenigol sydd wedi’u llywio gan drawma.
Terminoleg a Gwerthoedd
Mae'r geiriau a ddefnyddiwn yn adlewyrchu ein golwg ar y byd ac mae ganddynt wahanol ystyron i wahanol bobl.
Pan fydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn cyfeirio at ryw (sex), rydym yn cyfeirio at y rhyw sy’n cael ei neilltuo i berson adeg ei eni – fel arfer benyw, gwryw a rhyngryw.
Pan fydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn cyfeirio at rywedd (gender), rydym yn cyfeirio at sut mae person yn uniaethu, sy'n sbectrwm eang ac sy'n gallu newid dros amser.
Ein safbwynt bob tro yw bod yn garedig ac i dderbyn gwahanol safbwyntiau, a chyfeirio at bobl fel y dymunant. Fel sefydliad sy'n canolbwyntio ar gleientiaid, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw parchu anghenion ein holl grwpiau cleientiaid.
Ein dull o weithredu mannau menywod yn unig a mannau dynion yn unig
Rydym yn cynnig eiriolaeth arbenigol a chwnsela un-i-un ar gyfer unigolion o’r ddau ryw a phob hunaniaeth rhywedd gan deimlo’n gryf bod diogelwch yn hanfodol i unrhyw un sy'n cael therapi.
Mae mannau un rhyw yn unig yn bwysig i fenywod a merched sydd wedi dioddef ymosodiadau rhywiol gan ddynion gan eu bod yn pryderu am eu diogelwch. Rydym hefyd yn cydnabod bod trais rhywiol yn effeithio'n anghymesur ar y gymuned draws, a bydd ganddynt hwythau hefyd bryderon am eu diogelwch, eu preifatrwydd a'u hurddas.
Er mwyn cefnogi pobl i deimlo'n ddiogel yn ein canolfan, byddwn yn cynnig gofod un rhyw i ddefnyddwyr benywaidd, a gofod un rhywedd ar gyfer menywod/pobl draws sy'n uniaethu fel menywod.
Rydym hefyd yn cynnig ystod o ymyriadau grŵp sy'n benodol i ryw a rhywedd – er mwyn cael mynediad at ein grwpiau menywod mae angen i chi fod yn fenyw ac uniaethu fel menyw, ac i gael mynediad at ein grŵp gwrywaidd mae angen i chi fod yn wrywaidd ac uniaethu fel dyn, ac mae grŵp ar gyfer pobl drawsryweddol yn seiliedig ar rywedd hunan-ddiffiniedig. O bryd i'w gilydd mae'n briodol i ni gynnig grwpiau cymysg, er enghraifft wrth weithio gyda rhieni/gofalwyr plant sy'n cael eu cam-drin.
Ein Hymrwymiad
Byddwn yn ymgynghori â chleientiaid yn rheolaidd ar eu hanghenion i sicrhau bod cynhwysiadau/gwaharddiadau yn gymesur i'r menywod sydd angen mannau un rhyw, ac i'r rhai sy'n uniaethu yn ôl rhywedd, gan gydnabod y gall cleientiaid deimlo nad oes croeso iddynt mewn mannau os ydynt yn teimlo bod eu hunaniaeth rhywedd neu ryw yn cael ei wrthod. Bydd y gwiriadau hyn yn ein galluogi i sicrhau ymateb cymesur i anghenion ein defnyddwyr, gan ddilyn canllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ar wasanaethau un rhyw.
Byddwn yn cofnodi ac yn cynnig gwasanaethau yn ôl rhyw a rhywedd, i ddeall proffil ein cleientiaid a'u dewisiadau. Byddwn yn cynnwys gwiriadau defnyddwyr posibl yn ein harfer gwrth-ormesol, croestoriadol, a gwaith arall sy’n mynd rhagddo i wella ein cynhwysiant ac i sicrhau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gleientiaid wedi'i deilwra i wahanol anghenion ac sy’n cydymffurfio â'r gyfraith.