Anti Racism Statement
Cartref > Amdanom ni > Polisiau > Anti Racism Statement
Mae RASASC Gogledd Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig, anfantais a gwahaniaethu.
Mae gwrth-hiliaeth yn ymdrech weithredol ac ymwybodol i weithio yn erbyn pob agwedd ar hiliaeth agored a systemig.
Rydym yn cydnabod bod hiliaeth yn mynd y tu hwnt i elyniaeth ymwybodol neu agored tuag at unigolion neu gymunedau oherwydd eu diwylliant, lliw, cenedligrwydd, hil neu gefndir ethnig. Gall hiliaeth fod yn gynnil ac yn anymwybodol. Er mwyn mynd i'r afael â hiliaeth mewn gwirionedd, mae angen i ni ddeall y rôl rydyn ni i gyd yn ei chwarae.
Er y bu ymrwymiad cryf i greu cymdeithas deg a chyfartal, mae hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol yn dal i fodoli yn ein bywydau bob dydd. Gall hyn hefyd barhau yn y gweithle, ac mae'n rhaid i ni gydnabod ein diffygion sefydliadol ein hunain.
Trwy gofleidio a mabwysiadu dull gwrth-hiliaeth rydyn ni’n mynd ati i strwythuro ein gweithgareddau i adlewyrchu ein gwerthoedd a'n gweithredoedd i fynd i'r afael â'n rhwystrau systemig i gydraddoldeb hiliol. Mae hyn yn gofyn am undod, dewrder a gonestrwydd wrth gydnabod bod llawer i'w wneud o hyd, ac mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i wrando ar brofiadau ac i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn.
Mae RASASC Gogledd Cymru yn credu bod yn rhaid i bawb ymladd yn erbyn hiliaeth, bod rhaid ei gondemnio a'i herio os caiff ei weld.