I ddysgu mwy am ein gwasanaethau, gwyliwch yr hysbyseb a’r fideo byr hwn. Cynghorir disgresiwn gan fod y fideos hyn yn cynnwys gwybodaeth a allai beri gofid i rai gwylwyr.
Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol a therapi i unrhyw un 3 oed a hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol. Rydym ni hefyd yn cynnig cefnogaeth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu’r rheiny sydd wedi dioddef oherwydd cam-drin rhywiol a thrais.
Rydym ni’n cynnig y dewis o weithwyr gwrywaidd neu fenywaidd yn ogystal â gwasanaeth Cymraeg neu Saesneg.
Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru
11 Ash Court, Ffordd y Llyn, Parc Menai, Bangor, LL57 4DF
Swyddfa: 01248 670 628 |
Llinell Gymorth: 0808 80 10 800
Ebost: info@rasacymru.org.uk
Gwerthfawrogir pob rhodd.
Bach neu Mawr
Un-tro neu yn fisol